Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol
15 Ionawr 2016
Grŵp Trawsbleidiol Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS)
1. Aelodaeth y Grŵp a deiliaid swyddi.
Julie Morgan AC, Cadeirydd
Bethan Jenkins AC, Is-gadeirydd
Mick Antoniw AC
Peter Black AC
Mike Hedges AC
Rhodri Glyn Thomas AC
Joyce Watson AC
Darren Williams (PCS), Ysgrifennydd
Shavanah Taj, Alison Burrowes, Siân Wiblin (PCS)
2. Cyfarfodydd Blaenorol y Grŵp ers y Cyfarfod Blynyddol diwethaf.
Cyfarfod 1.
Dyddiad y cyfarfod: 21 Ebrill 2015
Yn bresennol: Julie Morgan AC (Cadeirydd)
Bethan Jenkins AC
Ryland Doyle (yn cynrychioli Mike Hedges AC)
Mark Major (yn cynrychioli Suzy Davies AC)
Nancy Cavill (staff cymorth Julie Morgan AC)
Shavanah Taj (Ysgrifennydd PCS Cymru)
Siân Wiblin (Swyddog Diwydiannol PCS)
Darren Williams (PCS – Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol)
Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Bu’r Grŵp yn trafod anghydfod parhaus yr Undeb â Llywodraeth y DU a phenderfyniad nifer o adrannau yn Whitehall i ddileu cyfleusterau ar gyfer didynnu tâl aelodaeth undeb o gyflogau; materion amrywiol yn ymwneud â chyflog a staffio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru; anghydfod posibl yng nghanolfan gyswllt y DVLA ynglŷn â dileu taliadau premiwm ar gyfer gweithio yn ystod y penwythnos; a phryderon ynghylch dyfodol y swyddfeydd treth yn Abertawe a Wrecsam.
Cyfarfod 2.
Dyddiad y cyfarfod: 11 Tachwedd 2015
Yn bresennol: Julie Morgan AC
John Griffiths AC
Bethan Jenkins AC
Helen West, Swyddfa Julie Morgan AC
Ioan Bellin, Swyddfa Simon Thomas AC
Darren Williams (PCS – Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol)
Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Bu'r grŵp yn trafod ymdrechion parhaus yr Undeb i ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu cyfleusterau ar gyfer didynnu tâl aelodaeth undeb o gyflogau a'r problemau a achosir gan y Bil Undebau Llafur sy’n mynd drwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd; yr anghydfod cyflog parhaus yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru; y cyhoeddiad disgwyliedig ynglŷn â chau swyddfeydd treth yng Nghymru ac mewn mannau eraill; adolygiad o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol gan Syr Charlie Bean; a materion o fewn Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â chysylltiadau diwydiannol a lleoliad gwaith o amgylch Cymru.
Cyfarfod 3 (Cyfarfod Blynyddol).
Dyddiad y cyfarfod: 12 Ionawr 2016
Yn bresennol: Julie Morgan AC
Bethan Jenkins AC
Helen West, Swyddfa Julie Morgan AC
Ioan Bellin, Swyddfa Simon Thomas AC
Marianne Owens (Aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y PCS)
Shavanah Taj (Ysgrifennydd PCS Cymru)
Darren Williams (PCS – Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol)
Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Cafodd Julie Morgan ei hail-ethol yn gadeirydd y Grŵp, ac etholwyd Bethan Jenkins yn is-gadeirydd, yn lle Rhodri Glyn Thomas. Adolygodd y cyfarfod weithgareddau'r Grŵp yn ystod y flwyddyn flaenorol a thrafodwyd sut y gallai weithredu yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Cafwyd cyfarfod busnes arferol ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, lle trafodwyd y materion canlynol: y bwriad i gau swyddfeydd treth a llysoedd barn yng Nghymru; yr anghydfod parhaus yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru a'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau; goblygiadau Cyllideb Ddrafft Cymru i gyrff datganoledig; bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio'r Gofrestrfa Tir; a thoriadau mewn swyddi yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Dim.
Datganiad Ariannol Blynyddol.
15 Ionawr 2016
Grŵp Trawsbleidiol Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS)
Julie Morgan AC, Cadeirydd
Darren Williams (PCS), Ysgrifennydd
Treuliau’r Grŵp. |
Dim. |
£0.00 |
Cost yr holl nwyddau.
|
Ni phrynwyd nwyddau. |
£0.00 |
Buddiannau a gafwyd gan y grŵp neu Aelodau unigol gan gyrff allanol.
|
Ni chafwyd buddiannau. |
£0.00 |
Ysgrifenyddiaeth neu gymorth arall.
|
Ni chafwyd cymorth ariannol. |
£0.00 |
Gwasanaethau a ddarparwyd i’r Grŵp, fel lletygarwch.
Talwyd am yr holl luniaeth gan y PCS.
|
||
Dyddiad |
Disgrifiad o’r darparwr a’i enw
|
Cost |
21 Ebrill 2015
|
Darparwyd y bwffe gan Charlton House. |
£64.44 |
11 Tachwedd 2015 |
Darparwyd y bwffe gan Charlton House. |
£64.44 |
12 Ionawr 2016 |
Darparwyd y bwffe gan Charlton House. |
£64.44 |
Cyfanswm y costau
|
£193.32 |